
Lewis Thompson
RHEOLWR DATBLYGU GOGLEDD CYMRU - BEICIO CYMRU

A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar 么l graddio?
Rwy'n gweithio i Beicio Cymru, sef y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer beicio yng Nghymru. Fi yw Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Gogledd Cymru, ac rwy'n ceisio denu pobl newydd i'r gamp, a chydlynu a threfnu projectau, rhaglenni a digwyddiadau.
Ar 么l graddio, es i weithio yn Undeb Athletau Prifysgol 天天吃瓜fel Is-lywydd Chwaraeon. Doeddwn i ddim hollol si诺r beth oeddwn eisiau ei wneud fel gyrfa, ond roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gweithio ym maes chwaraeon, a thrwy hynny datblygodd fy angerdd dros ddatblygu chwaraeon a helpu i gefnogi pobl ifanc a darparu cyfleoedd iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn cael profiad chwaraeon tebyg i fy mhrofiad i pan oeddwn yn iau.
Sut gwnaeth eich gradd gyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
Roedd y cwrs Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol yn amrywiol ac yn eang ei gwmpas. Roedd yn cwmpasu gwahanol agweddau ar chwaraeon, o wyddorau chwaraeon i addysg gorfforol, ac roedd yn caniat谩u i mi ddeall pa lwybr roeddwn eisiau ei ddilyn.
Beth oedd yr her fwyaf y gwnaethoch ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Pan ddaeth fy swydd cyfnod penodol yn Undeb Athletau Prifysgol 天天吃瓜i ben, yr her fwyaf oedd culhau'r hyn yr oeddwn eisiau arbenigo ynddo o fewn datblygu chwaraeon, boed hynny'n chwaraeon perfformiad, cyflwyno digwyddiadau, cydlynu ac ati.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Rhoddodd fy nghwrs y cyfle i mi ddatblygu sgiliau nad oeddwn yn meddwl y byddwn yn eu hennill, gan gynnwys sgiliau cyflwyno, ysgrifennu adroddiadau, bodloni terfynau amser, gweithio'n annibynnol a delio 芒 chyfrifoldeb. Mae'r holl sgiliau hyn, yn ogystal 芒鈥檙 wybodaeth yr ydych yn ei hennill trwy gydol eich cwrs, i gyd yn berthnasol yn y gweithle.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Mae rhwydweithio鈥檔 rhan enfawr o fy ngyrfa yng Nghymru yn enwedig, a gogledd Cymru yn arbennig. Sector eithaf bach yw鈥檙 sector chwaraeon yng ngogledd Cymru, felly mae cael cyfleoedd i rwydweithio a chwrdd 芒 phobl yn rhywbeth gwerthfawr er mwyn cydweithio a cheisio cyfleoedd swyddi posibl yn y dyfodol, ac ati.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion diweddar sy'n ymuno 芒'r farchnad swyddi?
Byddwn yn argymell i unrhyw un sy鈥檔 ymuno 芒鈥檙 farchnad swyddi i wneud cais am unrhyw swyddi sydd o ddiddordeb iddynt. Bydd ysgrifennu CV a llythyr eglurhaol, yn ogystal 芒 chael profiad o gyfweliad, yn eich helpu; po fwyaf o waith paratoi y byddwch yn ei wneud, y mwyaf y byddwch yn barod pan fydd swydd yr ydych wir ei heisiau yn codi.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Byddwn yn argymell i fyfyrwyr sy鈥檔 astudio ar hyn o bryd geisio ennill profiad a chymwysterau lle bo modd, gan gynnwys gwirfoddoli, cwblhau cymaint o DPP 芒 phosibl, neu fynd ar leoliad rhan amser, mae'r cyfan yn eich helpu i baratoi at ymuno 芒鈥檙 farchnad swyddi ac i fod mor brofiadol 芒 phosibl. Byddwn yn edrych yn benodol ar ennill cymaint o gymwysterau 芒 phosibl mewn unrhyw beth sy'n gysylltiedig 芒'r maes yr ydych eisiau gweithio ynddo. I mi, roeddwn yn edrych ar addysgu, hyfforddi neu ddatblygu chwaraeon. Es i鈥檙 afael 芒 llawer o gyrsiau hyfforddi lefel 1 mewn amrywiaeth o chwaraeon, p锚l-droed, athletau, rygbi, tenis ac ati. Rwyf hefyd yn argymell unrhyw gymwysterau Anabledd. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnig cyrsiau Lefel 1 am ddim, a chyrsiau Lefel 2 a 3 am bris rhesymol. Es hefyd ati i gwblhau DPP mewn Hiliaeth mewn Chwaraeon, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl mewn chwaraeon, Chwaraeon Cynhwysol, a DPP generig megis cyflwyniadau a gweithdai cyfryngau.
Ble mae鈥檙 cyfleoedd gyrfa mwyaf ym maes chwaraeon ac ymarfer ar hyn o bryd?
Rydym yn dechrau gweld digwyddiadau chwaraeon mawr yn dod i'r Deyrnas Unedig unwaith eto, megis Ewro 2028, Gemau'r Gymanwlad, Grand D茅part y Tour de France, ac mae hynny鈥檔 cynyddu cyfleoedd swyddi o fewn chwaraeon a datblygu chwaraeon, yn ogystal 芒 logisteg, perfformiad ac yn y blaen.
Beth fyddech chi鈥檔 ei ddweud wrth rywun sy鈥檔 ystyried dilyn gradd ym Mhrifysgol Bangor?
Ewch amdani! Dydw i ddim yn difaru fy mhenderfyniad i fynd i Brifysgol 天天吃瓜o gwbl, roedd yn bendant y penderfyniad cywir i mi. Mae darlithwyr arbenigol, cyfleoedd allgyrsiol a chefnogaeth gyffredinol ar gael i鈥檆h paratoi at fywyd ar 么l i chi raddio!