
Ryan Eddowes
Swoleg gyda Herpetoleg, 2015

"Rwyf nawr yn dathlu deng mlynedd o weithio gydag anifeiliaid 鈥 deng mlynedd ar 么l i arbenigwyr meddygol ddweud wrthyf na fyddai bywyd o'r fath byth yn bosibl.
Syrthiais mewn cariad 芒 Phrifysgol 天天吃瓜gyntaf ar 么l bod i dri diwrnod agored. Nid oedd yn ymwneud 芒 dim ond yr adeiladau hanesyddol, na chwaith y cyfleusterau megis ei Hamgueddfa Byd Natur ei hun 鈥 ond yn hytrach y teimlad o berthyn. Roedd y mynyddoedd, yr arfordir, y dirwedd ei hun fel pe baent yn fy ngalw adref. Wedi fy ysbrydoli gan Syr David Attenborough, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau dilyn yn 么l ei droed: drwy ddod 芒 rhyfeddodau byd natur, a鈥檙 angen dybryd i鈥檞 gwarchod, i sylw cenedlaethau鈥檙 dyfodol. Roedd Prifysgol Bangor, a oedd yn enwog am ei gwyddorau biolegol, ei hamgueddfa, a hyd yn oed ei llong ymchwil ei hun, y lle perffaith i dyfu.
Ond nid oedd fy nhaith i gyrraedd yno yn un syml.
Cefais fy ngeni gyda chyflwr Troed Mewndro Cynhenid Dwyochrog 鈥 鈥渢roed clwb鈥. Cyflwr ydyw sy鈥檔 achosi i'ch traed droi i mewn, gan effeithio ar symudedd ac achosi poen. Fel plentyn, treuliais oriau di-ri mewn ysbytai, yn clywed meddygon yn rhoi cyfyngiadau ar yr hyn y byddwn yn gallu ei wneud. Pan oeddwn ddim ond yn 13 oed, dywedodd meddygon wrthyf y byddwn yn debygol o fod mewn cadair olwyn erbyn i mi fod yn 30 oed, ac y byddai gweithio gydag anifeiliaid yn amhosibl. I blentyn a freuddwydiodd am fod yn geidwad sw, roedd y geiriau hynny'n teimlo fel drws yn cau'n glep.
Eto i gyd, gwrthodais roi鈥檙 gorau i freuddwydio.
Byddai nain a taid yn mynd 芒 fi i swau, i warchodfeydd natur, ac i鈥檙 arfordir Jwrasig lle byddwn yn chwilio am ffosiliau. Cerddais drwy amgueddfeydd byd natur 芒鈥檓 llygaid fel soseri, gan ddychmygu'r creaduriaid anhygoel a arferai gerdded y Ddaear hon. Taniodd y profiadau hynny angerdd ynof na allai unrhyw brognosis ei ddiffodd.
Dechreuais fy llwybr yng Ngholeg Rodbaston, gan gwblhau Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid a graddio gyda Rhagoriaeth***. Fe wnes i hyd yn oed helpu i sefydlu sw鈥檙 coleg 鈥 profiad ymarferol a gadarnhaodd fy mod yn yr union le yr oeddwn i fod.
Yna roedd fy mhrofiad ym Mhrifysgol 天天吃瓜yn bennod newydd. Astudiais Swoleg gyda Herpetoleg a theithio鈥檙 byd 鈥 o chwilio am ymlusgiaid yng Nghorfu, i ymchwilio i forfilod pengrwn yn Tenerife, i sefyll mewn rhyfeddod wrth i eliffantod gerdded heibio i mi ym Mharc Cenedlaethol Kruger, gydag un ohonynt hyd yn oed yn ffug-ymosod ar ein gr诺p. Fe wnaeth yr eiliadau hynny 鈥 rhai crai, pwerus, a bythgofiadwy 鈥 lunio nid yn unig fy astudiaethau ond fy enaid.
Yn Ne Affrica, yn ystod interniaeth gwneud ffilmiau bywyd gwyllt, y darganfyddais fy ngwir alwedigaeth: adrodd straeon. O dan arweiniad Ryan Johnson, gwneuthurwr ffilmiau i'r BBC a National Geographic, dysgais sut i ffilmio a chyflwyno rhyfeddodau byd natur. Denodd fy ffilm traethawd hir, sy'n dogfennu bywyd gwyllt Gardd Fotaneg Treborth, sylw anturiaethwr y BBC, Steve Backshall, a ddymunodd yn dda i mi ar Twitter. I rywun a oedd ar un adeg yn teimlo'n anweledig, roedd y gydnabyddiaeth honno'n golygu popeth.
Y tu hwnt i'm hastudiaethau, rhoddais yn 么l i'r brifysgol 鈥 gan wirfoddoli yn yr Amgueddfa Byd Natur ac yn ystod diwrnodau agored, a hyd yn oed cael fy ngwahodd i siarad ar 么l y Dirprwy Is-ganghellor mewn digwyddiad mawr. O fod yn blentyn ysgol swil i annerch cannoedd o deuluoedd, roedd yn un o eiliadau balchaf fy mywyd.
Ar 么l graddio gyda 2:1, ffilmiais forfilod a dolffiniaid yn Tenerife, addysgais ofal anifeiliaid yng Ngholeg Rodbaston, a daethais yn dywysydd saffari ym Mharc Saffari Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yn y pen draw, cefais fy nyrchafu i fod yn Swyddog Addysg, gan gynnal cyfarfyddiadau ag anifeiliaid ac addysgu ysgolion am gadwraeth. Yna daeth y byd i stop 鈥 caeodd COVID-19 bopeth i lawr ar fy mhen-blwydd yn 24 oed.
Pan godwyd y cyfyngiadau, des i'n dywysydd saffari VIP, gan roi profiadau unwaith mewn oes: bwydo llewod a theigrod, a hyd yn oed treulio dyddiau fel ceidwad y rhinoserosod. Roedd y gwaith yn fy atgoffa bob dydd o'r fraint o gael sefyll mor agos at natur. Ar hyd y ffordd, cefais gyfle i ymddangos ar deledu cenedlaethol, yn cystadlu ar raglen The Chase ar ITV.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cerdded hyd yr arfordir Jwrasig er budd elusen, gan godi arian i elusen STEPS a Save the Rhino International. Y daith gerdded honno oedd y tro cyntaf i rywun nad oeddent yn enwog fod yn llysgennad i STEPS. Cefais fy newis oherwydd fy mod eisiau dangos safbwynt gwahanol, sef nad oes rhaid i bobl ag anableddau gael eu diffinio gan athletiaeth na stereoteipiau - gallant ddilyn unrhyw freuddwyd.
Ond daeth bywyd 芒 thro arall.
Gwaethygodd fy nghyflwr, ac ym mis Mehefin 2024, cefais lawdriniaeth i dorri fy nghoes dde i ffwrdd o dan y pen-glin. Ar 么l bron i dair degawd o boen, roeddwn o'r diwedd yn gallu cerdded yn rhydd gyda choes prosthetig. Nid diwedd oedd o, ond aileni. Heddiw, rwyf hefyd yn gwisgo br锚s ar fy nghoes chwith, ond am y tro cyntaf yn fy mywyd, gallaf symud heb fod mewn poen.
Newidiodd hyn fy llwybr unwaith eto. Er nad wyf yn gweithio'n uniongyrchol ag anifeiliaid mwyach, rwyf bellach yn cefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ac anableddau fel Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu yn fy hen ysgol uwchradd. Rwy'n eu helpu ar eu teithiau eu hunain, yn union fel y gwnaeth eraill fy helpu i ar un adeg.
Ym mis Hydref 2024, cefais y fraint o fod yn arweinydd t卯m yng Ng诺yl fyd-enwog Wildscreen, gan gwrdd 芒 s锚r y diwydiant megis Hamza Yassin ac ailgysylltu 芒 Steve Backshall. Roedd pob cyfarfyddiad yn teimlo fel arwyddbost ar gyfer y llwybr y dylwn ei ddilyn.
Ac yn awr, rwy'n paratoi ar gyfer fy antur fwyaf. Wedi fy ysbrydoli gan Syr David Attenborough, sydd wedi ymroi dros 70 mlynedd i fyd natur, rwy'n bwriadu teithio'r byd i ddod o hyd i bob rhywogaeth a enwyd er anrhydedd iddo. Bydd y daith hon 鈥 i'r Deyrnas Unedig, Affrica, Asia, America ac Awstralia 鈥 yn dod yn llyfr ac yn gyfres YouTube. Fy nod yw anrhydeddu ei waddol arbennig, ond hefyd camu i mewn i un fy hun: dod y cyflwynydd bywyd gwyllt cyntaf 芒 throed clwb wedi'i thorri i ffwrdd.
Nid yw fy nhaith wedi bod yn hawdd. Rwyf wedi dioddef poen, anawsterau a llawdriniaethau. Ond rwyf hefyd wedi byw 芒 phenderfyniad, angerdd a gobaith. A nawr, 10 mlynedd i mewn i yrfa y dywedwyd wrthyf na fyddai byth yn bosibl, rwy'n falch o sefyll fel prawf nad eich cyfyngiadau yw eich tynged.
Nid fy stori i yn unig yw hon. Mae'n stori i unrhyw un sydd wedi clywed y geiriau 鈥渇edri di ddim.鈥 Oherwydd gyda digon o angerdd, dyfalbarhad, a chred ym mhrydferthwch gwyllt bywyd, fe allwch chi."