ÌìÌì³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Ffriddoedd Village

Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor

Mae astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mangor yn golygu ymgysylltu â’r bobl, y systemau a’r polisïau sy’n siapio iechyd a lles mewn cymdeithas. Byddwch yn archwilio’r profiad cymdeithasol o ofalu, yn dysgu sut i ddadansoddi darpariaeth gwasanaethau a pholisi, ac yn meithrin y sgiliau i ddylanwadu ar newid mewn lleoliadau iechyd neu gymunedol. Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar ymchwil ac ymarfer yn y byd go iawn, gyda chyfleoedd ar gyfer lleoliadau a safbwyntiau rhyngwladol i gefnogi’ch effaith yn y dyfodol.

Ar y Dudalen Hon:
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol - BA (Anrh)
Dewch i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o faterion cyfoes allweddol sy'n dylanwadu ar ein hiechyd a'n cymdeithas ac felly ar les unigolion a'u cymunedau.
Cod UCAS
L510
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd - BSc (Anrh)
Arbenigwch mewn deall y ffactorau seicolegol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac iechyd corfforol gyda'n cwrs Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd.
Cod UCAS
C880
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Cyfleoedd Gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi cefndir da ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd fel rheoli gwasanaethau iechyd, ymchwil, hybu iechyd a gwaith cymdeithasol a chymunedol.   

Mae rhai o'n graddedigion diweddar wedi cymryd swyddi gyda chynghorau lleol fel swyddogion tai; yn gweithio gyda theuluoedd bregus, neu ffoaduriaid. Mae graddedigion eraill wedi gweithio i elusennau; helpu'r digartref, neu rai â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed i alcohol neu gyffuriau. Mae ein graddedigion hefyd wedi mynd ymlaen i astudio ymhellach mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a throseddeg neu i hyfforddiant proffesiynol mewn meysydd fel nyrsio neu fydwreigiaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Roedd ein hymchwil ymysg y 20 uchaf (o 94) yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil gyda 95% o ymchwil naill ai'n rhagorol yn rhyngwladol neu gyda'r gorau yn y byd (REF 2014).
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn  i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.