Paratowch ar gyfer gyrfa gyffrous a all lunio dyfodol gofal iechyd
Mae astudio yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn cynnig cyfle unigryw i ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y gwyddorau meddygol. Mae ein graddau 么l-raddedig yn cyfuno rhagoriaeth academaidd 芒 chymhwysiad yn y byd go iawn, gan eich paratoi i ddod yn weithiwr proffesiynol rhagweithiol a galluog mewn amgylcheddau ymchwil, clinigol a gofal iechyd. Byddwch mewn sefyllfa gref i gystadlu'n llwyddiannus am astudio ar lefel PhD, a swyddi, ym Mhrifysgolion, sefydliadau ymchwil a diwydiannau iechyd yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd galw am eich sgiliau hefyd gan gyflogwyr mawr fel y diwydiant fferyllol, ymchwil feddygol a chyrff iechyd cyhoeddus.
Beth mae ein graddedigion yn ei wneud nesaf?
Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Meddygol
Yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddatrys problemau allweddol mewn meddygaeth er mwyn gwella gofal cleifion. Ein nod yw ehangu dealltwriaeth feddygol a datblygu atebion byd go iawn i heriau brys ym maes iechyd.
Mae canser yn brif ffocws. Drwy Sefydliad North West Cancer Research, rydym yn astudio sut mae canser yn datblygu, ac yn gweithio ar driniaethau newydd a ffyrdd o fonitro cleifion鈥攇an gydweithio ag arbenigwyr ledled y byd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys y canlynol:
- Canser
- Clefyd Awtoimiwn ac Imiwnoleg
- Geneteg
- Microbioleg a Biocemeg
- Anatomeg ac Ymarfer Clinigol
- Nanodechnoleg
Mae myfyrwyr 么l-radd yn ymuno ag amgylchedd cefnogol a chydweithredol, gyda chyfle i weithio ar ymchwil sy鈥檔 cael gwir effaith.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.