Darpar-feddygon yn dysgu Cymraeg fel sg铆l glinigol
Yn ddiweddar, canmolwyd carfan lawn gyntaf Prifysgol 天天吃瓜o fyfyrwyr meddygol, sy'n agos谩u at ddiwedd blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, am eu hymdrechion i ddysgu Cymraeg ac ymgysylltu 芒'r cyd-destun ieithyddol y byddan nhw鈥檔 gweithio ynddo.
Datblygwyd y cwrs peilot 鈥楳wy na Geiriau - y Gymraeg fel sgil glinigol鈥 gan diwtoriaid arbenigol ac arweinwyr polisi yng Nghanolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg y Brifysgol, mewn cydweithrediad 芒 staff clinigol a staff cymorth yn yr Ysgol Feddygol ac o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd y cwrs ar lefelau Blasu, Canolradd a Hyfedredd i gefnogi polisi 鈥楳wy na geiriau鈥 Llywodraeth Cymru wrth ymgorffori鈥檙 iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal 芒 gwersi iaith, darparwyd hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i鈥檙 myfyrwyr, er mwyn rhoi dealltwriaeth lawn iddynt o鈥檙 dirwedd ieithyddol y byddan nhw鈥檔 gweithio ynddi.
Ar y modiwl, bu鈥檙 myfyrwyr meddygol yn datblygu geirfa ac ymadroddion penodol i faes meddygaeth dros ddau semester o sesiynau wythnosol 鈥 gan eu paratoi i weithio mewn rhanbarth lle mae鈥檙 iaith Gymraeg yn cael ei siarad gan nifer sylweddol o drigolion, yn aml fel iaith gyntaf. Roedd y cwrs hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd, megis staff clinigol a staff cymorth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a staff o wasanaethau brys rheng flaen eraill y rhanbarth 鈥 Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru.
Rhoddwyd pwyslais arbennig ar weithio gyda phlant ifanc iawn, nad ydynt eto'n gwbl ddwyieithog; a chleifion oedrannus, y gall mynegi teimladau ac emosiynau cymhleth mewn ail iaith fod yn anodd iddynt, yn enwedig wrth gyplysu hynny 芒 phresenoldeb cyflyrau fel dementia a chlefyd Alzheimer.
Yna, roedd cyfleoedd i'r myfyrwyr roi eu sgiliau ar waith yn y byd go iawn, yn ystod eu lleoliadau cyntaf mewn meddygfeydd teulu a chyfleusterau tebyg eraill yn y rhanbarth.
Un o'r myfyrwyr hynny oedd Mustafa Al-Bazooni, o Fanceinion, a fu ar leoliad gwaith mewn meddygfa ym Mhenrhyndeudraeth. Dywedodd, 鈥淢ae鈥檙 cwrs wedi rhoi cymaint o brofiad i mi o鈥檙 iaith a鈥檙 diwylliant Cymraeg 鈥 mae wedi bod yn anhygoel. Mae鈥檔 mynd i fy helpu i greu amgylchedd mwy cyfforddus i gleifion. Hyd yn oed os mai dim ond drwy ddweud 鈥榯i鈥檔 iawn?鈥 neu 鈥榖ore da鈥, mi fydd yn mynd yn bell i wella ein sgiliau cyfathrebu efo nhw.鈥
Mae myfyriwr arall, Enlli Pritchard, o Waunfawr yn siaradwr Cymraeg ac yn dilyn ffrwd Hyfedredd y modiwl, lle rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu'r Gymraeg i'w defnyddio mewn cyd-destun meddygol proffesiynol. Dywedodd, 鈥淢ae wedi cynyddu fy hyder yn fy nefnydd o Gymraeg 鈥榩roffesiynol鈥 ac rydw i wedi gallu rhoi fy sgiliau ar waith ar unwaith. Mi weithiais ar brosiect yn ddiweddar lle roedden ni鈥檔 diolch i deuluoedd lleol am roi cyrff eu hanwyliaid at ddefnydd ymchwil meddygol ac mi oedd gallu defnyddio iaith briodol a sensitif - yn y Gymraeg - yn gwneud y profiad yn un dwysach i ni gyd.鈥
Derbyniodd Mustafa ac Enlli ill dau gydnabyddiaeth arbennig gan eu tiwtoriaid am eu hagwedd bositif a鈥檜 hymroddiad dros y ddau semester.
Yn 么l Dr Phil Davies, Tiwtor Sgiliau Iaith Uwch yng Nghanolfan Bedwyr a chydlynydd y modiwl, bu cael carfan newydd o fyfyrwyr ar raglen astudio newydd, yn gyfle i ddatblygu cwrs newydd ac unigryw. Dywedodd Dr Davies, 鈥淩oedden ni鈥檔 awyddus i鈥檙 cwrs fod yn gyflwyniad ystyrlon i鈥檙 iaith, i fod yn 鈥榝wy na geiriau鈥. Roedd dysgu geiriau ac ymadroddion defnyddiol iddyn nhw eu defnyddio fel clinigwyr gyda chleifion Cymraeg eu hiaith, ochr yn ochr 芒 sesiynau ymwybyddiaeth iaith, yn ein harwain at un o egwyddorion craidd meddygaeth 鈥 deall, gyda pharch, pwy yw鈥檙 bobl y maen nhw鈥檔 eu trin.鈥
Yn cyflwyno tystysgrifau i鈥檙 myfyrwyr oedd Dr Nia Jones, Deon Meddygaeth yr Ysgol Feddygol. Meddai: 鈥淔el meddyg sy鈥檔 siarad Cymraeg fy hun, rwy鈥檔 gweld pwysigrwydd ymgorffori鈥檙 iaith a鈥檙 diwylliant Cymraeg yn y rhaglen feddygol. Mewn digwyddiad Cynnwys Cleifion a鈥檙 Cyhoedd yn ddiweddar, er enghraifft, nododd adborth y mynychwyr eu bod yn awyddus i ymarferwyr meddygol ddeall eu hunaniaeth fel cleifion sy鈥檔 siarad Cymraeg. Mae鈥檙 cwrs hwn yn caniat谩u i鈥檔 myfyrwyr meddygol ddeall y cleifion y maen nhw鈥檔 eu hwynebu a鈥檜 paratoi ymhellach i weithio mewn cyd-destunau dwyieithog.鈥
Yn dilyn adborth cadarnhaol y myfyrwyr a gwerthusiad llwyddiannus gan staff, bydd 鈥楳wy na Geiriau 鈥 y Gymraeg fel sgil glinigol鈥 yn cael ei gyflwyno i bob myfyriwr meddygol blwyddyn gyntaf sydd wedi cofrestru ar gyrsiau meddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru o fis Medi 2025 ymlaen.