Mae deallusrwydd artiffisial gyda'i fodelau iaith mawr yn dylanwadu ar sut rydym yn ysgrifennu. Fodd bynnag, nid deallusrwydd artiffisial yw'r dechnoleg gyntaf na'r cyfrwng cyntaf i ddylanwadu ar sut rydym yn ysgrifennu, nac i gynnig ffyrdd i ni astudio sut mae pobl yn ysgrifennu. Bydd y ddarlith gyhoeddus hon yn ystyried beth sydd ynghlwm wrth ysgrifennu, pa ffactorau sy'n effeithio ar sut rydym yn ysgrifennu a sut mae technoleg yn rhoi cipolwg i ymchwilwyr ar sut rydym yn ysgrifennu.
Bydd y ddarlith yn trafod y meysydd hyn ac yn eu darlunio gyda phrosesau ysgrifennu amrywiaeth o awduron iaith gyntaf ac ail iaith, awduron o wahanol oedrannau ac unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Trafodir yn fyr hefyd sut mae awduron yn ymdrin 芒 system dreigladau鈥檙 Gymraeg, yn ogystal 芒 sut y gallai鈥檙 offer cyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu data ar gyfer ysgrifennu fod yn ddefnyddiol hefyd i astudio pryder gyda mathemateg.
Bydd y ddarlith yn gorffen trwy ofyn sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn addysgu i leihau'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial fel rhan o'r broses ysgrifennu.
Graddiodd yr Athro er Anrhydedd Kirk Sullivan ym Mhrifysgol 天天吃瓜ym 1986 gyda BA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Ers hynny, mae wedi bod yn astudio a gweithio mewn prifysgolion yn Ewrop a Seland Newydd. Mae Kirk yn gweithio ym Mhrifysgol Ume氓 yn Sweden ers 30 mlynedd, lle mae鈥檔 athro ieithyddiaeth ac yn arweinydd gwyddonol yr ysgol 么l-radd gwyddor addysg. Mae'r Athro Sullivan wedi cadw cysylltiad agos 芒 天天吃瓜ac mae'n cydweithio'n aml ag ymchwilwyr Prifysgol Bangor.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael cyn y ddarlith.