ÌìÌì³Ô¹Ï

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio ym Mhrifysgol Bangor! Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Cadwch mewn cysylltiad trwy'r cyfryngau cymdeithasol lle cewch y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan ac rydym yn dymuno'r gorau wrth i chi baratoi am ddod yma.

Peidiwch â Methu - Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw

Croeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr – Sesiwn Holi ac Ateb Byw

  Ddydd Iau Awst 28 am 2pm

Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Groeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am ddechrau yn y brifysgol, y broses gofrestru a pha gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 2yp ddydd Iau, 28 Awst i gymryd rhan.

Llety - Sesiwn Holi ac Ateb Byw

  Dydd Iau, 4 Medi am 10am

Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Lety ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am symud i mewn i a byw mewn Llety Prifysgol Bangor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 10yb ar ddydd Iau, 4 Medi i gymryd rhan.

Gwyliwch ein fideo

Stella Farrar yn sefyll yn y labordy
Fideo: Llongyfarchiadau ar eich Cynnig

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Dewch i'n Digwyddiadau Byw i wneud ffrindiau cyn cyrraedd

Ymunwch â'n ap CampusConnect a dewch i'n digwyddiadau byw! Dyma'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac sy'n aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Digwyddiadau sydd i ddod

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal ÌìÌì³Ô¹Ïfel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd