Myfyrwyr ffilm a鈥檙 cyfryngau yn ennill Gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol

Mae myfyrwyr ffilm a'r cyfryngau Prifysgol 天天吃瓜wedi ennill gwobr fawreddog gan Gymdeithas Deledu Frenhinol Cymru mewn seremoni yng Nghaerdydd.
Enillodd Tape 15, ffilm fer arswydus, wobr yn y categori myfyrwyr ar gyfer Adloniant a Drama Gomedi. Dyma鈥檙 17eg fuddugoliaeth i Tape 15, sydd eisoes wedi鈥檌 dangos mewn gwyliau ffilm rhyngwladol. Cynhyrchwyd y ffilm gan Danny Redondo San Jose, Adele Zogota, Evie Pattison, Madalin Mathewson a Rhys Green.
Cafodd ffilm arall gan fyfyrywr, y ffilm gomedi fer Down N鈥 Out, gan Cameron Jones, Kieran Samuel, Chris Collings, Lucas Sheridan ac Isaac Sheridan, ei henwebu yn yr un categori hefyd.
Wrth drafod y profiad o fynychu鈥檙 seremoni wobrwyo, dyweddodd Adele Zogota o d卯m cynhyrchu Tape 15, 鈥淩oedd yn swreal bod yn yr un ystafell 芒鈥檙 gweithwyr proffesiynol hyn o鈥檙 diwydiant, i gael siarad 芒 nhw, ac ennill gwobr yn yr un seremoni. Rwy鈥檔 dal i fethu credu ei fod wedi digwydd, ac fe wnaeth fy ysgogi hyd yn oed yn fwy. Mae ennill gwobr RTS am brosiect 2il flwyddyn yn y Brifysgol wedi gwneud i mi sylweddoli efallai nad yw torri i mewn i鈥檙 diwydiant yn swnio mor anodd ag oedd o鈥檔 wreiddiol.鈥
Cynhyrchwyd y ddwy ffilm yn y modiwl Cynhyrchu鈥檙 Ffilm Fer, dan arweiniad Stephanie Steventon, Darlithydd Cynhyrchu Ffilm a Chyfryngau, a oedd yn falch iawn o lwyddiant ei myfyrwyr. Dywedodd, 鈥淢ae鈥檙 fuddugoliaeth hon yn amlygu creadigrwydd a dawn ein myfyrwyr ac yn adlewyrchu safon uchel y ffilmiau a gynhyrchir o fewn y modiwl Cynhyrchu鈥檙 Ffilm Fer. Mae鈥檙 ddau enwebiad yn dyst i waith caled y myfyrwyr, ac rwy鈥檔 hynod o falch o beth maen nhw wedi ei gyflawni. Cynlluniwyd y modiwl er mwyn dysgu myfyrwyr sut i ddatblygu cynhyrchiad, creu ffilm, a鈥檌 dosbarthu a鈥檌 marchnata. Mae鈥檙 enwebiad a鈥檙 fuddugoliaeth hon yn adlewyrchu鈥檔 wirioneddol y meddylfryd fod ffilmiau a gynhyrchir ar gyfer Cynhyrchu鈥檙 Ffilm Fer yn cael eu creu er mwyn cyrraedd cynulleidfa a chanfod llwyddiant tu hwnt i鈥檙 Brifysgol.鈥
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac edrychwn ymlaen at weld mwy o鈥檜 ffilmiau sydd ar y gweill a chefnogi eu gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol! Cadwch lygad am gyhoeddiad am yr Arddangosfa Ddiwedd Blwyddyn er mwyn gweld rhagor o ffilmiau byrion gan fyfyrwyr yn ystod y cyfnod graddio.