Medru a'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn cyflwyno cwrs XRealiti yn Airbus
Mae tîm Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor, yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y Brifysgol, wedi cyflwyno cwrs sgiliau newydd i weithwyr Airbus, fel rhan o Raglen Medru newydd y Brifysgol.
Ffatri sgiliau yw Medru, partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, sy’n cynnig sylfaen datblygu sgiliau i fusnesau lleol yn nisgyblaethau STEM ac, yn y cam cyntaf, yn benodol o amgylch .
Cyflwynodd Dr Panagiotis Ritsos a Dr Peter Butcher o Labordy Amgylcheddau Trochol y Brifysgol, gwrs ar XRealiti i dîm datblygu a chynhyrchu sydd gyda’r gorau yn y byd yn Airbus, y cwmni awyrennaeth a gofod mwyaf yn Ewrop, yn ei safle ym Mrychdyn, sir Fflint. Mae'r cwrs hwn yn un o weithgareddau Coleg y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, rhan o'r Ganolfan Ragoriaeth sy'n darparu cyrsiau hyfforddi a seminarau galwedigaethol, yn ogystal â rhaglenni ôl-radd hyfforddedig, ymchwil, a rhaglenni isradd hyfforddedig.
Cynigiodd y cwrs, a gyflwynwyd dros bedair sesiwn dwy awr, gyflwyniad i Rithrealiti, Realiti Estynedig a Realiti Cymysg (VR, AR, MR - a elwir gyda’i gilydd yn XR), a thrafod rhai o heriau’r paradeimau hyn, ynghyd ag enghreifftiau posib o’u defnydd i’r sector awyrofod. Cyflwynwyd hefyd rai o arddangosiadau Prifysgol Թmewn . Cynigir cwrs tebyg at lefel MSc, trwy gyfrwng yr MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, lle gall myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer traethawd hir MSc mewn XR gydag academyddion yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.

Roedd yn bleser cyflwyno’r cwrs hwn yn Airbus, cwmni sydd wedi bod â diddordeb mawr mewn defnyddio technolegau XR ar gyfer gwahanol gamau o’u gweithrediadau. Mae gan Airbus hanes hir o archwilio i'r defnydd o Realiti Estynedig, yn arbennig. Gyda’r diddordeb presennol mewn cysyniadau fel Gefeilliaid Digidol ar gyfer hyfforddi ac efelychu, rydym yn hyderus bod y cwrs wedi darparu sylfaen gref yn tanategu’r cymwysiadau hyn.
Roedd y cyfranogwyr yn awyddus i ofyn cwestiynau diddorol iawn, a chawsom gyfle i egluro sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI), rhwydweithiau’r dyfodol megis 5G, a datblygiadau diweddar mewn rhyngwynebau rhyngweithio dynol-gyfrifiadurol hwyluso twf pellach mewn defnyddio XR ym maes awyrofod. Roedd yn bleser cyflwyno’r cwrs hwn, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at y tro nesaf!
Cawsom gyfle i arddangos rhai o’n prototeipiau blaengar a adeiladwyd gan ddefnyddio XR ar y We, trwy arddangosiadau amser real gyda Realiti Cymysg HoloLens 2 Microsoft a’n fframwaith Dadansoddeg Drochol, . Yn ogystal, cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddatblygu prototeipiau sylfaenol, gan ddefnyddio blwch tywod ar-lein a fframweithiau Gwe a . Roedd yn gyffrous gweld pobl yn dod i ddeall y gweithgareddau hyn ac yn datblygu rhywbeth mewn sesiwn sengl, gyda chymorth uniongyrchedd y We.
Dywedodd Dr Daniel Roberts, Swyddog Cyswllt yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ar gyfer Medru, “Mae Medru yn cynnig cyfle gwych i weithio gyda busnes i lenwi bylchau sgiliau mewn diwydiant, a hynny ar ystod o wahanol lefelau. Mae dysgwyr sy'n cymryd rhan yng nghyrsiau Medru yn paratoi ar gyfer Ffatrïoedd Clyfar y dyfodol, ac mae XR wedi cael ei nodi fel maes sydd o ddiddordeb gan Airbus i’w ddatblygu. Trwy arddangosiadau amser real, cafodd dysgwyr o Airbus gyfle i weld sut y gallai technolegau XR, fel HoloLens 2 Microsoft, wella'r amgylchedd gwaith a sut y gallai defnyddio technolegau o'r fath gynorthwyo â phrosesau gweithgynhyrchu.”
Ychwanegodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig “Mae’n wych gweld y buddion y mae staff yr ysgol yn eu cyflwyno i ddiwydiant trwy Goleg y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol a Medru.”
Dywedodd Yr Athro Jianming Tang, Cyfarwyddwr y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol: “Mae’r cwrs yn ddechrau rhagorol i gyfres cyrsiau hyfforddi’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Trwy lawn ddefnyddio arbenigedd y Ganolfan, sydd gyda’r gorau yn y byd mewn prosesu signalau digidol, arloesi technegol blaengar a chyfleusterau arbrofol unigryw, mae'r Ganolfan yn gweithio'n galed i ddarparu mwy o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol agos i roi gwell gwasanaeth byth i’r gymuned”.
Fel un o weithwyr Airbus roedd y cwrs yn werthfawr iawn. Ymdriniwyd â’r pynciau mewn ffordd a oedd yn addas i bawb, beth bynnag eu cefndir/gwybodaeth flaenorol o XR, gydag elfennau rhyngweithiol hefyd.