Y Brifysgol yn derbyn sgôr 5 seren gan QS
Mae Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïwedi derbyn 5 Seren gan QS (Quacquarelli Symonds), yr arbenigwyr addysg byd-eang.
Mae system sgorio QS Stars yn asesu prifysgolion yn ôl yr arferion gorau’n fyd-eang ac mae’n bwrw golwg manwl dros bynciau penodol fel addysgu, cyflogadwyedd, ymchwil a rhyngwladoli.
Llwyddodd ÌìÌì³Ô¹Ïi ennill sgor 5 seren ym mhob un o'r categorïau allweddol a 'Sgor Ardderchog' cyffredinol o 5 seren yn archwiliad QS dros yr haf.
Hefyd, ennillodd Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïy sgorau uchaf mewn sawl categori gan gynnwys Cyflogadwyedd, Boddhad Myfyrwyr yn ogystal ag enw da'r cyflogwr a’r elfen Academaidd.
Mae llwyddiant Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïar system QS Stars yn dyst amlwg i'r gwaith caled a wneir ledled y sefydliad. Mae QS Stars yn cynnal archwiliad trwyadl o berfformiad y sefydliad ac mae’n amlygu ein llwyddiant wrth ddarparu profiad addysg o’r safon uchaf i’r myfyrwyr oll.
Cewch ragor o wybodaeth am System QS Stars