Ecoamgueddfa Pen Llŷn yn Eisteddfod Boduan
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yw cartref yr Ecoamgueddfa o fewn Prifysgol Bangor, wrth i Dr Einir Young a Gwenan Griffith weithio’n agos gyda Dr Kate Waddington, Dr Leona Huey, Dr Gary Robinson, Dr Karen Pollock a’r Athro Peter Shapely. Derbyniodd y prosiect LIVE gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.
Wrth i gyfnod tair blynedd prosiect LIVE, sydd wedi ariannu gwaith Ecoamgueddfa Llŷn dros y tair blynedd ddiwethaf ddirwyn i ben, roedd yn wych gallu rhannu’r llwyddiannau a’r cynnyrch gyda phobl yr ardal a chyda phawb ddaeth i fwynhau bwrlwm stondin yr Ecoamgueddfa yn yr Esiteddfod Genedlaethol eleni. Nod yr Ecoamgueddfa yw sicrhau fod Pen Llŷn yn cael ei barchu fel cartref yn ogystal â chyrchfan, fel yr amlinellir a rei gwefannau: www.ecoamgueddfa.org a www.ecomuseumlive.eu.
Cafwyd amserlen hynod lawn gyda 21 digwyddiad i gyd, ond nid oes lle i sôn am bob un ohonynt.
Un o’r uchafbwyntiau oedd cael croesawu dwy o ysgolion y sir bob bore i arddangos y cefnlenni a grëwyd ar gyfer prosiect ‘Gair Mewn Gwlân’.
Rhannwyd llawer o gynnyrch yr ecoamgueddfa – y taflenni dysgu Cymraeg, Cymraeg yn yr Eisteddfod, chwe thaflen y Saffaris bywyd Gwyllt, a chafwyd sesiwn gan Rhys Mwyn a Dr Kate Waddington yn trafod y creiriau o Feillionnydd ger Rhiw a gafodd eu harddangos drwy’r wythnos, ac fe wnaethon nhw hefyd lansio taith rithiol Tre’r Ceiri (ecomuseumlive.eu) – adnodd sydd ar gael fel arddangosfa barhaol ym Mhorth y Swnt.
Lansiadau lu!
Lansiwyd tri llyfr a chyfres o flogiau gan Aled Hughes yn ystod wythnos yr Eisteddfod:
CipLŷn – llyfr sy’n benllanw prosiect LIVE
Cyfrol yw CipLŷn sy’n cyflawni dau nod, sef cyflwyno Ecoamgueddfa Llŷn i’r genedl a rhoi’r cyfle i 14 o ‘ferchaid’ Llŷn gael rhannu eu profiadau a’u teimladau am eu milltir sgwâr eu hunain drwy air a llun. Ceir ynddi gofnod o’u teimladau tuag at fro eu mebyd, at y gymuned ac am eu dyheadau a’u pryderon am y dyfodol gan roi cip i ni ar eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn frwdfrydig iawn yn lleol ac o’r tu hwnt i Gymru.
Dyma oedd gan Dr Jamie Davies o wasg AHRC i’w ddweud:
Gair mewn Gwlân
Mae ‘prosiect’ yn air rhy ddi-ddim i gyfleu gwir bwêr y gwaith a gafodd ei arwain gan y Prifardd Esyllt Maelor ac a gofnodwyd yn y llyfryn hwn, Gair mewn Glwân, drwy gyllid yr Ecoamgueddfa (LIVE).
Rhoddwyd y cyfle i 37 o ysgolion cynradd Gwynedd roi geiriau ac enwau ar gefnlenni o sgwariau a gafodd eu gwau gan bobl o bedwar ban byd ond, yn bennaf, o Wynedd.
Meddai Esyllt: “Mae yma enwau porthoedd a phyllau, ogofâu a chreigiau, ffermydd a ffynhonnau, caeau, afonydd, moelydd a phonciau chwarel. Disgyblion ysgolion y prosiect fu’n dewis yr enwau ac yna’n mynd ati gyda chymorth cyfeillion yr ysgol i’w brodio, eu gwnïo a’u gosod ar y cefnlenni. Mae oriau o lafur cariad yma. A tydw i ddim wedi sôn am y cerddi eto! Maen nhw yma rhwng y tudalennau yn aros i chi droi atyn nhw.”
Dwdls Cymraeg – llyfr yr Athro Oliver Turnbull
Llyfryn bach hyfryd yw Dwdls Cymraeg sy’n cofnodi taith yr Athro Oliver Turnbull wrth iddo ddysgu Cymraeg. Cafodd Dr Einir Young ei swyno gyda’r dwdls mewn digwyddiad ddydd Gŵyl Ddewi eleni a chynigiodd ariannu cyhoeddi’r llyfr am dri rheswm:
i) mae’n yn ffordd mor wych o ddangos nad oes un ffordd ‘gywir’ o ddysgu Cymraeg a bod rhyddid i bob siaradwr newydd ddod o hyd i ffyrdd unigryw i gofio geiriau a chystrawennau;
ii) bod hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif nodau’r Ecoamgueddfa;
iii) ac yn olaf, fod Nant Gwrtheyrn yn un o’r partneriaid, lle gall unrhyw un fynd i ddysgu Cymraeg.
Lansio flogs Llwybr yr Arfordir a Llwybr y Morwyr
Dros y misoedd diwethaf, bu Aled Hughes, un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru, yn cerdded 110 milltir/180km ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn o Drefor i Borthmadog, a Llwybr y Morwyr o Abersoch i Nefyn. Fe ddaeth Aled i rannu ei brofiadau ar stondin yr Ecoamgueddfa a dangos clipiau o rai o’i flogs (mae 15 i gyd, tua 9 munud o hyd, mewn Cymraeg gyda is-deitlau Saesneg, ac ynddynt, mae'n rhannu straeon difyr, ynghyd â ffeithiau diddorol am yr ardal).
Cynhyrchwyd y flogs mewn partneriaeth rhwng Aled Hughes, Llwybr Arfordir Cymru a'r Ecoamgueddfa gyda chyllid LIVE.