Mi fydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys seremoni coffa i gofio am rheini o Fangor a’r ardal a gollwyd eu bywydau yn ystod y rhyfel. Caiff yr enwau, 138 ohonynt, ei ddangos ar furiau Pontio, gyda cherddoriaeth. Cyn hynny, caiff y ffagl golau heddwch ei oleuo ar Borth y Coffa am 9-30yh, i nodi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Ewrop. Dyn tân lleol a chyn filwr Irac fydd yn goleuo’r ffagl golau heddwch.
Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Dinas ÌìÌì³Ô¹Ïmewn partneriaeth â Pontio a thîm ymgysylltu cymunedol Prifysgol Bangor.
Gofynnir i’r rheini sydd am fynychu’r digwyddiad i gasglu o flaen Pontio erbyn 8-45yh.
Mae’n bwysig iawn ein fod yn cofio hanes yr Ail Rhyfel Byd a’r golled difrifol a ddigwyddodd er mwyn diogelu rhyddid cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn o hyd yn ddiolchgar i’r rheini o Fangor a’r ardal cyfagos am eu haberth er mwyn i ni gyd. Fel Prifysgol, rydym yn falch i fedru gweithio gyda Chyngor Dinas ÌìÌì³Ô¹Ïar y digwyddiad yma, gan ddathlu a nodi Diwrnod VE yn ogystal â dangos ein diolch i’r dynion a menywod a gollodd eu bywydau.
Dyma ddigwyddiad dinesig pwysig iawn a mae’n bwysig fod ÌìÌì³Ô¹Ïyn nodi ac yn dathlu Diwrnod VE. Rydym am nodi’r diwrnod hanesyddol yma a chofio am y rheini o Fangor a’r ardal a wnaeth aberthu eu bywydau er ein rhyddid.