Mae ymgyrch newydd yn mynd rhagddi oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr Alban yr haf hwn i weld a allai鈥檙 genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt alltraeth arnofiol gynyddu cynhyrchedd y moroedd o amgylch y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrch yn dwyn ynghyd wyddonwyr morol blaenllaw o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys prifysgolion Lerpwl, Bangor, East Anglia, Southampton a Hull; Marine Scotland, sef Cymdeithas Gwyddor M么r yr Alban; a'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol.
Bydd dwy long ymchwil, sef y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery a Llong Ymchwil Prifysgol 天天吃瓜Prince Madog, ynghyd 芒 fflyd o gerbydau tanddwr, yn cynnal arolwg o鈥檙 dyfroedd o amgylch dwy fferm wynt arnofiol, a ddatblygwyd fel prototeipiau, oddi ar arfordir dwyrain yr Alban, sef: Kincardine, sy'n eiddo i Dragados ac sy鈥檔 cael ei weithredu gan Grupo Cobra; a Hywind, sy'n cael ei weithredu gan Equinor. Bydd y gwyddonwyr yn edrych i weld a all tyrfedd a chymysgu ychwanegol, wrth i geryntau鈥檙 llanw lifo trwy鈥檙 ffermydd gwynt arnofiol hyn, ddod 芒 maetholion i fyny o'r dyfnderoedd ar gyfer y plancton sy鈥檔 byw yn y dyfroedd cynnes sy鈥檔 nes at yr wyneb. Plancton yw sylfaen y gadwyn fwyd forol, felly gallai cynyddu cynhyrchiant plancton fod o fudd i fioamrywiaeth moroedd a physgodfeydd y Deyrnas Unedig.
Dros y degawd diwethaf, mae ynni gwynt alltraeth wedi dod yn rhan fawr o gyflenwad ynni'r Deyrnas Unedig, ac yn stori o lwyddiant diwydiannol i鈥檙 Deyrnas Unedig. Yn 2024, roedd gwynt yn cyfrif am 30% o gynhyrchiant trydan y Deyrnas Unedig, gyda mwy na hanner y cynhyrchiant hwnnw'n digwydd ar y m么r. Ond wrth i'r moroedd bas, sy'n addas ar gyfer ffermydd gwynt, ddechrau llenwi, mae'r diwydiant yn edrych ymhellach o鈥檙 lan er mwyn diwallu anghenion ynni'r Deyrnas Unedig a helpu i gyrraedd sero net.
Mae'r symud ymhellach o鈥檙 lan yn heriol o safbwynt peirianegol oherwydd bod y d诺r yn ddyfnach, gan olygu fod angen datblygu technoleg gwynt arnofiol newydd, a bellach mae'r Deyrnas Unedig yn arwain yn fyd-eang yn y maes hwnnw.
Mae symud i dd诺r dyfnach hefyd yn golygu y bydd y ffermydd gwynt yn gweithredu mewn amgylchedd eigionegol gwahanol iawn - moroedd arfordirol lle mae'r haenau d诺r yn newid gyda'r tymhorau. Mae'r moroedd hyn ymhlith y rhai mwyaf biolegol-gynhyrchiol ac amrywiol ar y blaned, fel yr eglurwyd gan David Attenborough yn y gyfres deledu Blue Planet. .
Dros yr haf, mae'r dyfroedd dyfnach hyn yn ffurfio haenau, gyda d诺r cynnes yn gorwedd uwch ben d诺r oerach oddi tanodd. Mewn d诺r dwfn y ceir y maetholion y mae ar blancton eu hangen, ond mae鈥檙 plancton yn byw yn yr haen uchaf. Wrth i鈥檙 llanw lifo heibio i'r ffermydd gwynt mae鈥檔 cynhyrchu tyrfedd a all ddod 芒 rhai o'r maetholion hynny i fyny i'r d诺r wyneb gan hyrwyddo twf plancton.

Meddai鈥檙 Athro Jonathan Sharples o Brifysgol Lerpwl, arweinydd y project a鈥檙 prif wyddonydd ar fwrdd y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery:
鈥淢ae鈥檙 ymchwil yma鈥檔 gyfle gwych i asesu effeithiau technoleg y ffermydd gwynt arnofiol newydd yma ar gynhyrchedd y cefnforoedd. Mae damcaniaethau presennol yn awgrymu oherwydd bod y cefnfor yn cynhesu'n gyflym y bydd yn dod yn llai cynhyrchiol, gan effeithio ar fioamrywiaeth ac ar bysgodfeydd. Bydd yn ddefnyddiol iawn gwybod a fydd y maetholion sy'n cael eu cymysgu tua鈥檙 wyneb gan ffermydd gwynt alltraeth arnofiol yn gallu gwrthbwyso rhywfaint o'r gostyngiad hwnnw.
Meddai Dr Ben Lincoln, sef yr eigionegydd ym Mhrifysgol 天天吃瓜sy'n arwain y gwaith ar y Llong Ymchwil Prince Madog:
鈥淵n ystod y don wres yn haf 2023, fe wnaethon ni sylwi ar rywbeth anarferol yn digwydd o amgylch ffermydd gwynt arnofiol. Er bod tymereddau d诺r wyneb tua 4-5 掳C yn uwch na'r arfer ar draws y rhan fwyaf o'r rhanbarth a oedd yn profi ton wres, roedd y d诺r wyneb yn llawer oerach yr ochr bellaf i ffermydd gwynt. Y rheswm dros hynny ydy bod tyrfedd yn dod 芒 d诺r dwfn, oerach i'r wyneb. Os ydy d诺r oerach yn dod i'r wyneb fel hyn, bydd maetholion y gallai'r plancton eu defnyddio hefyd yn dod i鈥檙 wyneb. Bydd yr arsylwadau newydd yma鈥檔 ein galluogi ni i fesur faint o hynny sy鈥檔 digwydd.鈥
Ochr yn ochr 芒'r gwaith a fydd yn digwydd ar fwrdd y llongau, bydd t卯m rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr daear, eigionegwyr a pheirianwyr trydanol o Brifysgol Southampton yn cynnal dadansoddiad newydd i fesur tymheredd y m么r gan ddefnyddio'r ceblau morol foltedd uchel sy'n cysylltu'r ffermydd gwynt 芒'r grid p诺er cenedlaethol.
Meddai鈥檙 Athro Justin Dix: 鈥淏ydd gallu canfod tymheredd y d诺r o鈥檙 ceblau trosglwyddo yn gyfle i olrhain newidiadau yn nhymheredd ac yn haeniad y cefnfor yn ystod oes y ffermydd gwynt.鈥
Bydd y rhaglen sydd wedi ei chynllunio ar gyfer yr haf hwn yn asesu effaith ffermydd gwynt alltraeth arnofiol er mwyn llywio datblygiadau yn y dyfodol i gyfrannu at dargedau sero net ond hefyd i amddiffyn iechyd y cefnforoedd mewn hinsawdd sy'n cynhesu.
Ariennir y gwaith gan y .