Ers dechrau’r gystadleuaeth yn 2017, dim ond 59 o brojectau sydd wedi eu hariannu drwy APEX, ac mae'r llwyddiant hwn yn nodi carreg filltir: dyma'r tro cyntaf i broject dan arweiniad prifysgol yng Nghymru dderbyn y wobr.
Mae’r gwobrau’n ariannu ymchwil sy’n annog chwilfrydedd a chreadigrwydd drwy ddod ag arbenigwyr o wahanol feysydd peirianneg ynghyd i ddatrys problemau anodd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Bydd y wobr yn cefnogi cydweithrediad dwy flynedd rhwng dau ymchwilydd uchel eu parch o Brifysgol Bangor. Y ddau ymchwilydd hyn yw’r Athro Zengbo Wang o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg a Dr Ellie Jameson o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Mae eu project, Listen to the Cell Breathe: Investigating Viral Infection in Real-Time with Nano-Vibration Detection and Super-Resolution Imaging, yn cyfuno arbenigedd mewn ffotoneg uwch â firoleg amgylcheddol.
Mae'r Athro Wang yn arbenigwr blaenllaw mewn delweddu uwch a thechnoleg golau. Mae'n dod â ffyrdd newydd i'r project o edrych ar strwythurau bach a chanfod dirgryniadau bychain iawn. Mae Dr Jameson yn firolegydd amgylcheddol blaenllaw y mae ei arbenigedd yn cwmpasu ecoleg microbaidd a dynameg heintiau bacterioffagau. Mae Dr Jameson yn dod â gwybodaeth werthfawr am sut mae'r heintiau firaol hyn yn gweithio gyda phwyslais ar fynd i'r afael â bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Bydd yr ymchwil yn datblygu ffordd newydd o arsylwi haint firaol gan wylio a gwrando ar gelloedd wrth iddynt gael eu heintio. Gyda thechnoleg uwch, gall y tîm weld strwythurau sy’n filoedd o weithiau'n llai na lled blewyn gwallt bod dynol. Gallant hefyd godi'r dirgryniadau gwan, fel 'anadliadau' bach, y mae celloedd yn eu gwneud pan fydd firysau'n ymosod arnyn nhw. Bydd y dull deuol hwn yn darparu cipolwg digynsail ar sut mae firysau'n rhyngweithio â'u lletywyr, gan ddiogelu eu hyfywedd—gwaith a allai osod y sylfaen ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol o ran diagnosio a thrin clefydau.

Mae Gwobr APEX yn rhoi cyfle unigryw inni gyfuno technoleg ddelweddu arloesol â firoleg i agor pennod newydd o ran deall heintiau firaol. Rydym yn frwdfrydig nid yn unig am yr wybodaeth wyddonol ond hefyd am ddod â rhyfeddod yr ymchwil hon i lygaid y cyhoedd.
“Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos grym dod â gwahanol ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol. Gobeithiwn y bydd y canlyniadau’n ysbrydoli ymchwil bellach a cheisiadau yn y dyfodol er budd iechyd pobl a’r amgylchedd.”
Ochr yn ochr â'r ymchwil wyddonol, bydd tîm ymchwil Թyn cynnal gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd i rannu eu darganfyddiadau â'r gymuned ehangach. Bydd y rhain yn cynnwys mynd allan i ysgolion, darlithoedd cyhoeddus, a digwyddiadau rhyngweithiol a gynlluniwyd i ysbrydoli chwilfrydedd ynghylch gwyddoniaeth ac amlygu gwerth ymchwil ryngddisgyblaethol.
Mae’r wobr hon yn pwysleisio ymrwymiad Prifysgol Թi feithrin ymchwil drawsddisgyblaethol sy’n cyflawni rhagoriaeth wyddonol ac effaith gymdeithasol. Drwy ddod ag arbenigedd blaenllaw ynghyd o’n gwahanol ysgolion, rydym ni nid yn unig yn mynd i’r afael â heriau cymhleth ond hefyd yn gosod Թar flaen y gad o ran ymchwil drawsnewidiol, chwilfrydig, sydd ag arwyddocâd gwirioneddol fyd-eang.
Ochr yn ochr â Gwobr APEX ddwy flynedd, bydd y project hefyd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Wynne Humphrey Davies, sy’n cael ei weinyddu gan Gronfa Bangor. Mae’r Gronfa yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae cefnogaeth Cronfa Wynne Humphrey Davies yn ymestyn yr ysgoloriaeth i fod yn PhD lawn ac yn agor y drws ar gyfer cydweithrediadau ymchwil newydd gyda sefydliadau blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys MIT a Phrifysgol Northeastern, gan wella cyrhaeddiad byd-eang ac effaith hirdymor y project.
Gallwch weld y cyhoeddiad swyddogol yma:
Dyluniad inc yn seiliedig ar y syniadau y tu ôl i'r grant
