Mae Gardd Fotaneg Treborth ym Mhrifysgol 天天吃瓜wedi cael ei chydnabod yn swyddogol gan yr elusen fel Casgliad Planhigion Cenedlaethol ar gyfer rhedyn brodorol Cymru. Dyma'r casgliad cenedlaethol cyntaf i gydnabod planhigion brodorol Cymru ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus Treborth i warchod treftadaeth fotanegol y wlad.
.Fel yr unig ardd fotaneg prifysgol yng Nghymru, mae Treborth yn gartref delfrydol i'r casgliad byw hwn, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Bydd yn cefnogi ymchwil ac addysgu, yn darparu deunydd ar gyfer gweithdai adnabod planhigion, ac yn rhoi cyfle prin i ymwelwyr weld rhywogaethau sydd fel arfer yn tyfu mewn lleoliadau anghysbell ac anodd eu cyrraedd. Mae'r casgliad yn gwneud y planhigion hyn yn hygyrch i fyfyrwyr, ymchwilwyr, cadwraethwyr, a'r cyhoedd.
Gyda bron i 60 o rywogaethau brodorol, mae rhedyn Cymru yn hynod amrywiol. Mae rhai, megis y rhywogaethau sydd wedi'u cyfyngu i Eryri a chynefinoedd lleol eraill, yn eithriadol o brin, a chedwir eu lleoliadau'n gyfrinach. Mae eraill, megis marchrawn, yn gr诺p anarferol nad ydynt hyd yn oed yn edrych fel rhedyn ac yn aml yn cael eu hystyried yn chwyn trafferthus mewn gerddi.
Meddai Richard Storey, Garddwriaethwr yng Ngardd Fotaneg Treborth, 鈥淢ae sefydlu鈥檙 casgliad hwn wedi bod yn llafur cariad. Drwy ddod 芒 holl redyn brodorol Cymru ynghyd, rydym yn diogelu鈥檙 rhywogaethau hynny ar gyfer y dyfodol.鈥
Natalie Chivers-Cross, Pennaeth yr Ardd Fotaneg a Bioamrywiaeth, 鈥淢ae鈥檙 gydnabyddiaeth hon yn nodi carreg filltir bwysig i鈥檙 Ardd. Mae鈥檔 tynnu sylw at ein hymrwymiad i warchod fflora Cymru, a bydd y casgliad yn darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer astudiaeth wyddonol, yn ysbrydoli ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol, ac yn galluogi i鈥檙 cyhoedd ymgysylltu 芒 phwysigrwydd ecolegol a diwylliannol y planhigion hyn.鈥