Ers dechrau鈥檙 gystadleuaeth yn 2017, dim ond 59 o brojectau sydd wedi eu hariannu drwy APEX, ac mae'r llwyddiant hwn yn nodi carreg filltir: dyma'r tro cyntaf i broject dan arweiniad prifysgol yng Nghymru dderbyn y wobr.
Mae鈥檙 gwobrau鈥檔 ariannu ymchwil sy鈥檔 annog chwilfrydedd a chreadigrwydd drwy ddod ag arbenigwyr o wahanol feysydd peirianneg ynghyd i ddatrys problemau anodd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Bydd y wobr yn cefnogi cydweithrediad dwy flynedd rhwng dau ymchwilydd uchel eu parch o Brifysgol Bangor. Y ddau ymchwilydd hyn yw鈥檙 Athro Zengbo Wang o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg a Dr Ellie Jameson o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Mae eu project, Listen to the Cell Breathe: Investigating Viral Infection in Real-Time with Nano-Vibration Detection and Super-Resolution Imaging, yn cyfuno arbenigedd mewn ffotoneg uwch 芒 firoleg amgylcheddol.
Mae'r Athro Wang yn arbenigwr blaenllaw mewn delweddu uwch a thechnoleg golau. Mae'n dod 芒 ffyrdd newydd i'r project o edrych ar strwythurau bach a chanfod dirgryniadau bychain iawn. Mae Dr Jameson yn firolegydd amgylcheddol blaenllaw y mae ei arbenigedd yn cwmpasu ecoleg microbaidd a dynameg heintiau bacterioffagau. Mae Dr Jameson yn dod 芒 gwybodaeth werthfawr am sut mae'r heintiau firaol hyn yn gweithio gyda phwyslais ar fynd i'r afael 芒 bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Bydd yr ymchwil yn datblygu ffordd newydd o arsylwi haint firaol gan wylio a gwrando ar gelloedd wrth iddynt gael eu heintio. Gyda thechnoleg uwch, gall y t卯m weld strwythurau sy鈥檔 filoedd o weithiau'n llai na lled blewyn gwallt bod dynol. Gallant hefyd godi'r dirgryniadau gwan, fel 'anadliadau' bach, y mae celloedd yn eu gwneud pan fydd firysau'n ymosod arnyn nhw. Bydd y dull deuol hwn yn darparu cipolwg digynsail ar sut mae firysau'n rhyngweithio 芒'u lletywyr, gan ddiogelu eu hyfywedd鈥攇waith a allai osod y sylfaen ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol o ran diagnosio a thrin clefydau.

Mae Gwobr APEX yn rhoi cyfle unigryw inni gyfuno technoleg ddelweddu arloesol 芒 firoleg i agor pennod newydd o ran deall heintiau firaol. Rydym yn frwdfrydig nid yn unig am yr wybodaeth wyddonol ond hefyd am ddod 芒 rhyfeddod yr ymchwil hon i lygaid y cyhoedd.
鈥淢ae鈥檙 cydweithrediad hwn yn dangos grym dod 芒 gwahanol ddisgyblaethau ynghyd i fynd i鈥檙 afael 芒 chwestiynau sylfaenol. Gobeithiwn y bydd y canlyniadau鈥檔 ysbrydoli ymchwil bellach a cheisiadau yn y dyfodol er budd iechyd pobl a鈥檙 amgylchedd.鈥
Ochr yn ochr 芒'r ymchwil wyddonol, bydd t卯m ymchwil 天天吃瓜yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu 芒'r cyhoedd i rannu eu darganfyddiadau 芒'r gymuned ehangach. Bydd y rhain yn cynnwys mynd allan i ysgolion, darlithoedd cyhoeddus, a digwyddiadau rhyngweithiol a gynlluniwyd i ysbrydoli chwilfrydedd ynghylch gwyddoniaeth ac amlygu gwerth ymchwil ryngddisgyblaethol.
Mae鈥檙 wobr hon yn pwysleisio ymrwymiad Prifysgol 天天吃瓜i feithrin ymchwil drawsddisgyblaethol sy鈥檔 cyflawni rhagoriaeth wyddonol ac effaith gymdeithasol. Drwy ddod ag arbenigedd blaenllaw ynghyd o鈥檔 gwahanol ysgolion, rydym ni nid yn unig yn mynd i鈥檙 afael 芒 heriau cymhleth ond hefyd yn gosod 天天吃瓜ar flaen y gad o ran ymchwil drawsnewidiol, chwilfrydig, sydd ag arwyddoc芒d gwirioneddol fyd-eang.
Ochr yn ochr 芒 Gwobr APEX ddwy flynedd, bydd y project hefyd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Wynne Humphrey Davies, sy鈥檔 cael ei weinyddu gan Gronfa Bangor. Mae鈥檙 Gronfa yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae cefnogaeth Cronfa Wynne Humphrey Davies yn ymestyn yr ysgoloriaeth i fod yn PhD lawn ac yn agor y drws ar gyfer cydweithrediadau ymchwil newydd gyda sefydliadau blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys MIT a Phrifysgol Northeastern, gan wella cyrhaeddiad byd-eang ac effaith hirdymor y project.
Gallwch weld y cyhoeddiad swyddogol yma:
Dyluniad inc yn seiliedig ar y syniadau y tu 么l i'r grant
