Modiwl HTC-2008:
Stori America 1607-1867
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu 2025-26
HTC-2008
2025-26
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Lowri Ann Rees
Overview
Mae cyfresi ar alw fel THE CROWN a ffilmiau poblogaidd fel LITTLE WOMEN a 1917, yn tystio nid yn unig i gyseinedd parhaus hanes fel pwnc sy鈥檔 taro tant gyda gwylwyr yn y sinema, o flaen y teledu neu ar-lein, ond i bwysigrwydd cyfryngau gweledol fel pwynt mynediad allweddol ar gyfer ein hadeiladwaith a鈥檔 dealltwriaeth o鈥檙 gorffenol. Mae hyn yn wir am y cyfnod 1607 i 1867 yng Ngogledd America, a archwiliwyd mewn gweithiau mor amrywiol a ffilm animeiddiedig POCAHONTAS Disney (1995), a鈥檙 drama bywyd go iawn GLORY (1989), stori bataliwn milwyr du cyntaf yr Unol Daleithiau. Mae鈥檙 cwrs hwn yn archwilio鈥檙 cyfnod yma, y cyfnod pan ddaeth cytrefi Americanaidd Prydain i鈥檙 amlwg fel Unol Daleithiau America tra datblygodd eu cymydog a鈥檜 gwrthwynebydd i鈥檙 Gogledd, Ffrainc Newydd, i fod yn Canada. Mae鈥檙 cwrs yn gwneud hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae鈥檔 dilyn y digwyddiadau a sifftiau mawr yn y stori honno o sefydlu鈥檙 trefedigaeth Seisnig cyntaf yn Firginia ac anheddiad Quebec gan y Ffrancwyr ar y St Lawrence i ddiwedd y Rhyfel Cartref Americanaidd a genedigaeth Canada. Yn ail, mae鈥檔 archwilio sut mae鈥檙 newdidadau hynny wedi cael eu cyfleu mewn sinema ac ar y teledu i gynulleidfaoedd torfol dros y ganrif ddiwethaf. Y cwestiynau y mae鈥檔 eu hwynebu yw: beth fu effaith newid ar brofiad America a Chanada? Sut mae鈥檙 newid hwnnw wedi鈥檌 ddehongli ar gyfer cynulleidfaoedd poblogaidd ar y sgrin? A sut mae ffilmiau a chyfresi teledu wedi gweithredu fel testunau hanesyddol? Mae鈥檙 cwrs yn cynnwys them芒u trefedigaethedd, imperialaeth, caethwasiaeth, rhyw, rhyddid, a thwf democratiaeth trwy lens y berthynas a phobloedd brodorol y cyfandir, gwrthdaro Ewropeaidd yng Ngogledd America, y gwrthdaro rhwng Catholigion a Phrotestaniaid, y Chwyldro Americanaidd, ehangu i鈥檙 Gorllewin, Chwyldro鈥檙 Farchnad, twf Diddymiad, y Rhyfel Cartref ac ymddangosiad Canada fel canlyniad.
Learning Outcomes
- Cydnabyddiaeth o sut mae ein dealltwriaeth o orffennol America wedi cael ei fowldio gan ffilm a theledu, cyfryngau torfol y ganrif ddiwethaf.
- Dadansoddiad o ffilm, dramau teledu, a rhaglenni dogfen.
- Dadansoddiad o ysgoloriaeth hanesyddol.
- Dealltwriaeth o鈥檙 prif themau gwleidyddol, cymdeithasol a diwyllianol sydd wedi nodweddu Storiau America a Chanada rhwng 1607 a 1867.
- Gwybodaeth o hanes yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 1607 a 1867.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig wrth gyflwyno a dadansoddi hanes yr Unol Dalethiau a Chanada, 1607-1867.