ÌìÌì³Ô¹Ï

Fy ngwlad:

Cwestiynau Am Gefnogaeth i Fyfyrwyr? Bydd Cyfle i Sgwrsio Gyda Staff ar y Diwrnod Agored

LLESIANT A CHYNHWYSIANT

Mae Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant Myfyrwyr ÌìÌì³Ô¹Ïyma i gefnogi dy iechyd meddwl, llesiant emosiynol ac i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n gysylltiedig â anabledd.

Mae ein tîm yn cynnig cymorth cyfrinachol gyda phryderon sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, llesiant, anabledd a chynhwysiant. Os yw straen, iechyd meddwl, neu faterion eraill yn effeithio ar dy ddysgu, cysyllta yn gynnar, rydym yma i helpu.

Rhaglen Cymorth Myfyrwyr 24/7

Rydym yn cynnig mynediad cyfrinachol i Raglen Cymorth Myfyrwyr allanol. Mae'r llinell gymorth 24 awr hon ar gael i fyfyrwyr Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ï365 diwrnod y flwyddyn gan gefnogi dy iechyd meddwl a dy lesiant.
 

 

Woman in Red Sweater Wearing Black Framed Eyeglasses Sitting on Wheelchair
Credit:Marcus Aurelius @ Pexels
Myfyrwyr yn cerdded tu allan i adeilad Pontio

Fel myfyriwr yma, byddi hefyd yn cael:

  • Cefnogaeth gyda threfniadau rhesymol - fel addasiadau arholiadau - trwy gynllun cymorth dysgu personol (PLSP).
  • Gwybodaeth am anabledd (gan gynnwys namau corfforol, cyflyrau iechyd hirdymor, awtistiaeth, colli synhwyrau) a'r gwasanaethau, cefnogaeth ac addasiadau sydd ar gael.
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr gyda gwahaniaethau dysgu penodol (SpLDs) fel dyslecsia, dyspraxia, dyscalculia ac ADHD.
  • Cyngor ar strategaethau i helpu gydag astudio a thasgau bob dydd.
  • Gallwn hefyd roi cyngor i fyfyrwyr y DU ar wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), ac ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y DSA gallwn roi cyngor ar opsiynau eraill posibl.
     

Yn ystod y Diwrnod Agored, tyrd draw i stondin Cymorth Myfyrwyr yn y Neuadd Arddangos i siarad â staff a fydd yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth gyffredinol ac egluro sut i gysylltu â'n timau arbenigol am wybodaeth fwy penodol.

CYNGOR ARIANOL A CHYLLID MYFYRWYR

Yn poeni am gyllidebu neu gyllid myfyrwyr? Nid wyt ar dy ben dy hun. Mae Tîm Cymorth Ariannol ÌìÌì³Ô¹Ïyn cynnig:

  • Arweiniad ar fenthyciadau a grantiau myfyrwyr
  • Cymorth gyda chyllidebu a rheoli arian
  • Cefnogaeth Cronfa Caledi a bwrsariaethau

Os oes gennyt unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, paid â cholli'r Sgwrs Cyllid Myfyrwyr yn ystod y Diwrnod Agored (lleoliad ac amser yn amserlen y Diwrnod Agored).
 

Person yn teipio ar liniadur ac yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau
Myfyrwyr ar liniadur yn M-SParc

CEFNOGAETH GYRFA A CHYFLOGADWYEDD

Nid yw byth yn rhy gynnar i feddwl am dy dyfodol. Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ÌìÌì³Ô¹Ïyn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol gyda:

  • Stiwdio Gyrfaoedd ‘galw heibio’ ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth gyrfaoedd
  • Gweithdai CV a chyfweliadau
  • Ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr
  • Hyd yn oed cyn dod yma, gelli ddod i wybod mwy am sut rydym yn helpu myfyrwyr i adeiladu dyfodol llwyddiannus.
     

CWESTIYNAU CYFFREDIN DIWRNOD AGORED

Dyma ychydig o'r cwestiynau y mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn eu hateb yn rheolaidd yn ystod Dyddiau Agored:

  • A yw'r campws yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr gyda dyslecsia?
  • Sut mae ÌìÌì³Ô¹Ïyn cefnogi myfyrwyr gyda heriau iechyd meddwl?
  • A oes ystafelloedd hygyrch yn y Neuaddau?
  • A oes mannau tawel neu Neuaddau tawel?
  • Os oes gennych gwestiynau fel y rhain, bydd ein tîm yn barod i helpu yn ystod y Diwrnod Agored, nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach.
     
Support your university

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ar wefan Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae yno wybodaeth am bob gwasanaeth, ynghyd â manylion cyswllt os wyt am siarad â rhywun cyn neu ar ôl y Diwrnod Agored.