Gardd Fotaneg Treborth
Mae Gardd Fotaneg Treborth yn ymestyn dros ardal o 18 hectar ar lannau Afon Menai ac wedi bod ym mherchnogaeth Prifysgol 天天吃瓜ers 1960. Er ei bod ar agor yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd, defnyddir Treborth ar gyfer rhai o weithgareddau ymchwil ac addysgu.
Mae Treborth yn gartref i saith t欧 gwydr, yn cynnwys t欧 trofannol tirlunedig mawr, labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhisotron), labordy addysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd greigiau, arbor毛twm a chasgliad cadwraeth. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg drwy'r Ardd ac yn denu dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn ogystal ag ymweliadau cyson gan ysgolion lleol a grwpiau diddordeb arbennig.
Gwylio - Gardd Fotaneg Treborth
Canolfan Amgylchedd Cymru
Mae Canolfan Amgylchedd Cymru (CAC) yn fenter bartneriaeth rhwng Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (CEH) a Phrifysgol Bangor. Mae CAC yn darparu cyfleuster ymchwil modern ar gyfer cymysgedd o wyddonwyr o ddisgyblaethau atmosffer, tir, d诺r croyw a morol i gyflwyno gwyddoniaeth integredig mewn adeilad eiconig gwyrdd sy'n adlewyrchu ein ffocws ymchwil ar faterion amgylcheddol.
Ffurfiwyd y Gr诺p Ecosystemau ac Amgylchedd (GEA) i ddwyn ynghyd arbenigedd gwyddonol o fewn a thu allan i'r brifysgol, yn y meysydd carbon, maetholion a llif llygryddion o fewn ac rhwng ecosystemau. Rydym yn gweithredu cyfres o labordai ar ail lawr adeilad CAC. Mae'r gyfres hon yn cynnwys labordy isotopau ymbelydrol a sefydlog, labordy pathogen Categori 2, ystafell feicrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy offer dadansoddol pwrpasol. O fewn y labordai mae gennym yr ystod ganlynol o offer a chyfleusterau dadansoddol:
- Dadansoddwr Ffiber Ankom
- Atlas Suntest CPS
- Ffwrn Aerglos
- Cabinetau Diogelwch Biolegol
- Allgyrchyddion
- Microscopau Llychwedd a Binocwlar
- Spectrofotomedr Llychwedd
- Cabinetau Tyfu
- IDeorydd a Phopty
- Dadansoddwr CN Leco
- Cyfrifiannell Golau Micro Beta
- Respiromedr Micro Oxymax
- Ffwrnais Muffle
- Respiromedr (Dadansoddwr CO2)
- Cylchwr Seward Stomacher 400
- Ysgwyddwyr
- Darllenwr Amlblat Tecan Infinite 200 Pro
- Dadansoddwr Elfennol TOC Tnb
- Dadansoddwr Elfennol TXRF
- Varian GC FID ECD
- Varian GC MS
- Varian HPLC
- Cyfrifiannell Sgleiniad Wallac
Mae offer ychwanegol sy'n ymwneud 芒 phrosesu pren a chynhyrchu cyfansoddion sy'n seiliedig ar ffibr planhigion ar gael yn y Ganolfan FioGyfansoddion. Mae gan staff hefyd fynediad at ystod o offer newydd ar gyfer ymchwil gwyddor planhigion ac amgylcheddol mewn Gwyddorau Biolegol a Chemeg. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer genomeg, proteomeg a metabolomeg, microsgopeg a delweddu, profion celloedd a gardd fotaneg.
Cyfleusterau Desg
Sefydlwyd y G yn 2003 gyda'r nod o gefnogi gwneud penderfyniadau mewn cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol. Mae CEBC yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy gynhyrchu a lledaenu adolygiadau systematig ar effeithiolrwydd ymyriadau rheoli a pholisi ac ar effaith gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol.
Safleoedd arbrofion hirdymor
Mae gennym nifer o safleoedd sy'n cael eu monitro yn y tymor hir ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil a gwaith prosiect. Mwy o wybodaeth.