ÌìÌì³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Midwifery

Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor

Mae astudio Bydwreigiaeth ym Mangor yn golygu ymuno â chymuned sy’n ymroddedig i ofal sy’n canolbwyntio ar y fenyw ac i drawsnewid profiadau geni. Byddwch yn datblygu’r arbenigedd clinigol a’r empathi gofalgar sydd eu hangen i gefnogi menywod a theuluoedd yn ystod beichiogrwydd, geni ac ar ôl hynny, oll mewn amgylchedd agos lle mae pob llais yn cael ei werthfawrogi a phob myfyriwr yn cael ei gefnogi.

Ar y Dudalen hon:

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Bydwreigiaeth

Gwyliwch Astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor

 

Fideo: Cyrsiau Bydwreigiaeth
Fideo: Beca Dafydd

Proffil Myfyriwr Beca Dafydd

Bydwreigiaeth

"Dwi'n teimlo mod i'n mynd allan i'r gymuned yn hyderus gan ein bod yn derbyn gwybodaeth o safon uchel iawn yn ystod yr wythnosau theori."

360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd

Myfyrwyr nyrsio dan hyfforddiant

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bydwreigiaeth

Mae bydwragedd yn aml yn disgrifio eu gwaith fel swydd 'freintiedig'. Mae eu swyddogaeth yn paratoi merched i esgor bywyd newydd yn eu gwneud yn bresenoldeb hanfodol yn ystod pob cam o'r beichiogrwydd, yr esgor a'r cyfnod ôl-enedigol cynnar. Ar ôl cofrestru, gall bydwragedd ddefnyddio eu cymhwyster i weithio mewn lleoliadau gofal iechyd eraill fel unedau gofal babanod arbennig. Mae rhai bydwragedd yn datblygu i fod yn arbenigwyr mewn meysydd fel diabetes neu iechyd y cyhoedd ac iechyd meddwl amenedigol. Mae cyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil ac addysg.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Bydwreigiaeth. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Bydwreigiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Bydwreigiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Bydwreigiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Bydwreigiaeth

Mae ein tîm yn goruchwylio graddau ôl-radd gan gynnwys myfyrwyr meistr, ac mae dau o'n tîm yn goruchwylio myfyrwyr PhD.  Mae ein meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar gynnig genedigaethau gartref, cyfraniad tadau yn ystod esgor, y gofal gorau posibl i oroeswyr trais rhywiol, profiadau merched o gymell esgor, yr hyn sy'n gweithio i gefnogi myfyrwyr bydwreigiaeth yn yr amgylchedd dysgu, defnyddio dull a gynhyrchir ar y cyd i wella profiadau rhoi genedigaeth, sgrinio serfigol, datblygu pecyn arolygu ffetws ar gyfer bydwragedd yn Lesotho ac effaith defnyddio'r Gymraeg ar brofiadau o roi genedigaeth. 

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.