Gwyliwch Astudio Radiograffeg ym Mhrifysgol Bangor
Cyfleoedd Gyrfa mewn Radiograffeg
Fel graddedig mewn Radiograffeg Ddiagnostig o Fangor, mae eich rhagolygon gyrfa yn rhagorol. Ers dros ddegawd, mae ein graddedigion wedi cyflawni cyfradd gyflogaeth gyson o 100% o fewn tri mis i gwblhau’r radd, gyda’r mwyafrif yn dechrau ar eu gyrfaoedd o fewn y GIG.
Bydd eich gyrfa’n parhau i ddatblygu trwy hyfforddiant proffesiynol parhaus. Gyda hyfforddiant yn y gwaith a phrofiad clinigol, gallwch arbenigo ym maes dulliau delweddu uwch megis CT, MRI, uwchsain neu radiograffeg ymyrrol, neu symud ymlaen i rolau uwch fel ymarferydd uwch neu ymarferydd ymgynghorol.
Mae galw am radiograffyddion y tu hwnt i’r GIG hefyd. Mae llawer yn mynd ymlaen i weithio yn y sector masnachol fel arbenigwyr cymwysiadau, addysgwyr, neu mewn gwerthiant ac iechyd gwybodaeth. Gyda’r holl ddelweddu GIG bellach yn gwbl ddigidol, mae graddedigion ÌìÌì³Ô¹Ïyn gadael gyda sylfaen gwybodaeth gadarn mewn gwybodaethau iechyd a thechnoleg delweddu – gan agor drysau at gyfleoedd pellach ar draws y sector iechyd a’r diwydiant.
Mae astudio Radiograffeg ym Mangor nid yn unig yn rhoi’r arbenigedd technegol i chi, ond hefyd yr hyblygrwydd a’r hyder i lwyddo mewn proffesiwn sy’n ganolog i ofal iechyd modern ac sy’n datblygu’n barhaus ochr yn ochr â thechnoleg newydd.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Radiograffeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Radiograffeg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Radiograffeg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Radiograffeg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Radiograffeg
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol ÌìÌì³Ô¹Ï(BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Mae ein hymchwil sy’n ymwneud â’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïo 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i’r dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.