Seicoleg ym Mangor?
Dy ddyfodol ar waith
Ym Mangor, mae gwyddoniaeth seicoleg yn dod yn fyw. Byddi di’n dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw sy’n trawsnewid y ffordd rydyn ni’n deall ymennydd, ymddygiad ac emosiynau. O ddadansoddi ymennydd dynol i redeg marathon neu wynebu ymosodiad gan sombïaid – mae’r profiadau’n amrywiol, ac yn ysbrydoli.
Mae 79% o’n hymchwil naill ai ymhlith y gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021). Mae’r adran wedi bod yn arloesi ers 1963 – un o’r hynaf yn y DU – ac mae’n gartref i labordai arbenigol gan gynnwys sganiwr MRI, cyfleusterau EEG, TMS a labordy anatomeg ymennydd.
Ond mae seicoleg ym Mangor yn fwy na gwyddoniaeth – mae’n brofiad. Byddi di’n cael cymorth bugeiliol bob dydd gan diwtor penodol, sesiynau sgiliau ac ystadegau, a rhaglen iechyd meddwl wedi’i chynllunio gan seicolegwyr. Rydyn ni’n dy gefnogi di i dyfu’n academaidd ac yn bersonol.
Mae’r gymuned yn fywiog ac amlieithog, gyda myfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd – ac os wyt ti’n siarad Cymraeg, mae dosbarthiadau ar gael yn dy iaith di. Rydyn ni’n falch o’n hunaniaeth Gymreig ac yn cynnig amgylchedd croesawgar lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol.
Mae ein cyrsiau’n cynnig cyfuniad unigryw o amrywiaeth, ansawdd a phrofiad dysgu – ac mae’r cyfan yn digwydd mewn adran sy’n llawn egni, arloesedd a chynhesrwydd cymunedol.
Croeso i Ysgol Seicoleg Bangor. Dy ddyfodol ar waith.